
Dysgu o bell gyda ReallySchool
Eleni, yn fwy nag erioed o'r blaen, rydym ni wedi gweld pa mor bwysig ydyw hi i allu parhau i ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Ac i'ch helpu chi i wneud hynny, rydym ni wedi ychwanegu adnoddau at ReallySchool er mwyn i chi allu cynnal rhythm y dysgu, os ydy disgyblion yn yr ysgol neu gartref.
Nawr gallwch chi roi'r arweiniad sydd ei angen ar rieni i gefnogi eu plentyn wrth iddynt ddysgu, yn ogystal â thracio datblygiad eich disgyblion, hyd yn oed pan na allant fod yn yr ysgol.
Dysgwch fwy am sut y gallwch chi ddefnyddio ReallySchool i gefnogi dysgu o bell – a mynnwch olwg ar ein hadnoddau gweithgareddau dysgu yn y cartref!
Gosodwch weithgareddau dysgu yn y cartref
Rhannwch weithgareddau dysgu yn y cartref gyda rhieni gan ddefnyddio fideos, clipiau sain, lluniau a nodiadau testun i esbonio a dangos gweithgareddau.
Cyfraniadau Rhieni
Gall rhieni ychwanegu lluniau, fideos, clipiau sain a nodiadau testun o ddysgu eu plentyn ar fersiwn yr ap ar gyfer rhieni.
Monitro cynnydd y tu allan i'r ysgol
Yn union fel yn achos arsylwadau, defnyddiwch asesiadau ar gyfer gweithgareddau dysgu yn y cartref er mwyn i chi allu parhau i fonitro cynnydd disgyblion y tu allan i'r ysgol.


